1 Molwch yr ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD,ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.
2 Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear,yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.
3 Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ,a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
4 Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn;y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog.
5 Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg,a threfnu ei orchwylion yn onest;
6 oherwydd ni symudir ef o gwbl,a chofir y cyfiawn dros byth.