1 Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni,ond i'th enw dy hun, rho ogoniant,er mwyn dy gariad a'th ffyddlondeb.
2 Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud,“Ple mae eu Duw?”
3 Y mae ein Duw ni yn y nefoedd;fe wna beth bynnag a ddymuna.
4 Arian ac aur yw eu delwau hwy,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.
5 Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;
6 y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,a ffroenau nad ydynt yn arogli;
7 y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo,a thraed nad ydynt yn cerdded;ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.