10 O dŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.
11 Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.
12 Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio;fe fendithia dŷ Israel,fe fendithia dŷ Aaron,
13 fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,y bychan a'r mawr fel ei gilydd.
14 Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau,chwi a'ch plant hefyd.
15 Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDDa wnaeth nefoedd a daear.
16 Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw,ond fe roes y ddaear i ddynolryw.