1 Molwch yr ARGLWYDD.Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid.
2 Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr,ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
3 Molwch ei enw â dawns,canwch fawl iddo â thympan a thelyn.
4 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl;y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig.
5 Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant,a llawenhau ar eu clustogau.