3 canwch iddo gân newydd,tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4 Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5 Y mae'n caru cyfiawnder a barn;y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7 Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8 Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.
9 Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu;gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.