1 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf,oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu;yng nghysgod dy adenydd y mae fy llochesnes i'r stormydd fynd heibio.
2 Galwaf ar y Duw Goruchaf,ar y Duw sy'n gweithredu drosof.
3 Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu;bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf;Selabydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd.
4 Yr wyf yn byw yng nghanol llewod,rhai sy'n traflyncu pobl,a'u dannedd yn bicellau a saethau,a'u tafod yn gleddyf miniog.