5 Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel;deffro a chosba'r holl genhedloedd;paid â thrugarhau wrth y drygionus dichellgar.Sela
6 Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵnac yn prowla trwy'r ddinas.
7 Wele, y mae eu genau'n glafoerio,y mae cleddyf rhwng eu gweflau.“Pwy,” meddant, “sy'n clywed?”
8 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennauac yn gwawdio'r holl genhedloedd.
9 O fy Nerth, disgwyliaf wrthyt,oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.
10 Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.
11 Paid â'u lladd rhag i'm pobl anghofio;gwasgar hwy â'th nerth a darostwng hwy,O Arglwydd, ein tarian.