8 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennauac yn gwawdio'r holl genhedloedd.
9 O fy Nerth, disgwyliaf wrthyt,oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.
10 Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.
11 Paid â'u lladd rhag i'm pobl anghofio;gwasgar hwy â'th nerth a darostwng hwy,O Arglwydd, ein tarian.
12 Am bechod eu genau a gair eu gwefusau,dalier hwy gan eu balchder eu hunain.Am y melltithion a'r celwyddau a lefarant,
13 difa hwy yn dy lid, difa hwy'n llwyr,fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau'r ddaearmai Duw sy'n llywodraethu yn Jacob.Sela
14 Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵnac yn prowla trwy'r ddinas.