8 Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,ond doed dy dosturi atom ar frys,oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.
9 Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth,oherwydd anrhydedd dy enw;gwared ni, a maddau ein pechodauer mwyn dy enw.
10 Pam y caiff y cenhedloedd ddweud,“Ple mae eu Duw?”Dysger y cenhedloedd yn ein gŵyddbeth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.
11 Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat,ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.
12 Taro'n ôl seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw,y gwatwar a wnânt wrth dy ddifrïo, O Arglwydd.
13 Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa,yn dy foliannu am byth,ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.