2 “Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn,ac y dangoswch ffafr at y drygionus?Sela
3 “Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad,gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.
4 Gwaredwch y gwan a'r anghenus,achubwch hwy o law'r drygionus.
5 “Nid ydynt yn gwybod nac yn deall,ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch,a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd.
6 Fe ddywedais i, ‘Duwiau ydych,a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.’
7 Eto, byddwch farw fel meidrolion,a syrthio fel unrhyw dywysog.”
8 Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear,oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.