1 Mor brydferth yw dy breswylfod,O ARGLWYDD y Lluoedd.
2 Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewygam gynteddau'r ARGLWYDD;y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawenar y Duw byw.
3 Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,a'r wennol nyth iddi ei hun,lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di,O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.
4 Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ,yn canu mawl i ti'n wastadol.
5 Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,a ffordd y pererinion yn eu calon.