8 Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwchi'w bobl ac i'w ffyddloniaid,rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.
9 Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.
10 Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.
11 Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,a'n tir yn rhoi ei gnwd.
13 Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.