2 Gwn am eich eiddgarwch, a byddaf yn ymffrostio amdano ac amdanoch chwi wrth y Macedoniaid, ac yn dweud bod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a bu eich sêl yn symbyliad i'r rhan fwyaf ohonynt.
3 Rwy'n anfon y brodyr er mwyn sicrhau na cheir ein hymffrost amdanoch yn ofer yn hyn o beth, ond eich bod yn barod, fel y dywedais y byddech.
4 Byddai'n beth chwithig pe deuai Macedoniaid gyda mi a'ch cael yn amharod, ac felly i ni—heb sôn amdanoch chwi—gael ein cywilyddio am fod mor sicr ohonoch.
5 Dyna pam y teimlais ei bod yn angenrheidiol gofyn i'r brodyr ddod atoch o'm blaen i, a threfnu ymlaen llaw y rhodd yr oeddech wedi ei haddo o'r blaen. Felly byddai'n barod i mi, yn rhodd haelioni, nid rhodd cybydd-dod.
6 Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael.
7 Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu.
8 Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da.