1 Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2 Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.
3 Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.
4 Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu â gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog.
5 Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn ôl y rheolau.