31 ac fe ymddangosodd dros ddyddiau lawer i'r rhai oedd wedi dod i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, ac y mae'r rhain yn awr yn dystion iddo i'r bobl.
32 Yr ydym ninnau yn cyhoeddi i chwi newydd da am yr addewid a wnaed i'r hynafiaid, fod Duw wedi ei llwyr gyflawni hi i ni eu plant trwy atgyfodi Iesu,
33 fel y mae'n ysgrifenedig hefyd yn yr ail Salm:“ ‘Fy mab wyt ti;myfi a'th genhedlodd di heddiw.’
34 “Ac am ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw, byth i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y mae wedi dweud fel hyn:“ ‘Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd sy'n perthyn i Ddafydd, y pethau sicr.’
35 “Oherwydd mewn lle arall eto y mae'n dweud:“ ‘Ni adewi i'th Sanct weld llygredigaeth.’
36 “Canys Dafydd, wedi iddo yn ei genhedlaeth ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a fu farw, ac a roddwyd i orffwys gyda'i dadau, a gwelodd lygredigaeth;
37 ond yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd hwnnw lygredigaeth.