39 a thrwy hwn y rhyddheir pawb sy'n credu oddi wrth yr holl bethau nad oedd modd eich rhyddhau oddi wrthynt trwy Gyfraith Moses.
40 Gwyliwch, ynteu, na ddaw arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y proffwydi:
41 “ ‘Gwelwch, chwi ddirmygwyr,a rhyfeddwch, a diflannwch,oherwydd yr wyf fi'n cyflawni gweithred yn eich dyddiau chwi,gweithred na chredwch ynddi byth, er ei hadrodd yn llawn ichwi.’ ”
42 Wrth iddynt fynd allan, yr oedd y bobl yn deisyf arnynt i lefaru'r pethau hyn wrthynt y Saboth wedyn.
43 Wedi i'r gynulleidfa gael ei gollwng, aeth llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid oedd yn addolwyr Duw, ar ôl Paul a Barnabas, a buont hwythau yn llefaru wrthynt ac yn eu hannog i lynu wrth ras Duw.
44 Y Saboth dilynol, daeth bron yr holl ddinas ynghyd i glywed gair yr Arglwydd.
45 Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd â chenfigen, ac yr oeddent yn gwrth-ddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi.