45 Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd â chenfigen, ac yr oeddent yn gwrth-ddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi.
46 Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: “I chwi,” meddent, “yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd.
47 Oblegid hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:“ ‘Gosodais di yn oleuni'r Cenhedloedd,iti fod yn gyfrwng iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.’ ”
48 Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu ac yn gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol.
49 Yr oedd gair yr Arglwydd yn ymdaenu drwy'r holl fro.
50 Ond fe gyffrôdd yr Iddewon y gwragedd bonheddig oedd yn addolwyr Duw, a phrif wŷr y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a'u bwrw allan o'u hardal.
51 Ysgydwasant hwythau'r llwch oddi ar eu traed yn eu herbyn, a daethant i Iconium.