24 Ar ganol yr amddiffyniad hwn, dyma Ffestus yn gweiddi, “Yr wyt yn wallgof, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy yrru di'n wallgof.”
25 Meddai Paul, “Na, nid wyf yn wallgof, ardderchocaf Ffestus; yn hytrach, geiriau gwirionedd a synnwyr yr wyf yn eu llefaru.
26 Oherwydd fe ŵyr y brenin am y pethau hyn, ac yr wyf yn llefaru yn hy wrtho. Ni allaf gredu fod dim un o'r pethau hyn yn anhysbys iddo, oherwydd nid mewn rhyw gongl y gwnaed hyn.
27 A wyt ti, y Brenin Agripa, yn credu'r proffwydi? Mi wn i dy fod yn credu.”
28 Ac meddai Agripa wrth Paul, “Mewn byr amser yr wyt am fy mherswadio i fod yn Gristion!”
29 Atebodd Paul, “Byr neu beidio, mi weddïwn i ar Dduw, nid am i ti yn unig, ond am i bawb sy'n fy ngwrando heddiw fod yr un fath ag yr wyf fi, ar wahân i'r rhwymau yma.”
30 Yna cododd y brenin a'r rhaglaw, a Bernice a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwy,