14 Eithr chwi, gwadasoch yr Un sanctaidd a chyfiawn, a deisyf, fel ffafr i chwi, ryddhau llofrudd.
15 Lladdasoch Awdur bywyd, ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw. O hyn yr ydym ni'n dystion.
16 Ar sail ffydd yn ei enw ef y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld a'i adnabod, a'r ffydd sydd drwy Iesu a roddodd iddo'r llwyr wellhad hwn yn eich gŵydd chwi i gyd.
17 Yn awr, frodyr, gwn mai gweithredu mewn anwybodaeth a wnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau.
18 Ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau'r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Feseia.
19 Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad,
20 ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu,