1 Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla—y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw.
2 Gwelais rywbeth tebyg i fôr o wydr, a thân yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y môr o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw.
3 Yr oeddent yn canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:“Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd,O Arglwydd Dduw hollalluog;cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd,O Frenin y cenhedloedd.
4 Pwy nid ofna, Arglwydd,a gogoneddu dy enw?Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd.Daw'r holl genhedloeddac addoli ger dy fron,oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu.”