1 Prif bwynt yr hyn rwy'n ei ddweud yw mai dyma'r math o archoffeiriad sydd gennym, un sydd wedi eistedd ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd,
2 yn weinidog y cysegr, sef y gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd, nid pobl feidrol.
3 Oherwydd y mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau, ac felly, rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i'w offrymu.
4 Yn awr, pe byddai ar y ddaear, ni byddai'n offeiriad o gwbl, gan fod yma eisoes rai sy'n offrymu rhoddion yn ôl y Gyfraith.
5 Y mae'r rhain yn gweini mewn cysegr sy'n llun a chysgod o'r un nefol, yn ôl y gorchymyn a gafodd Moses pan oedd ar fin codi'r tabernacl. “Gofala,” meddai Duw, “y byddi'n gwneud pob peth yn ôl y patrwm a ddangoswyd iti ar y mynydd.”
6 Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell—cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.
7 Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod.