1 Yna cymerodd Pilat Iesu, a'i fflangellu.
2 A phlethodd y milwyr goron o ddrain a'i gosod ar ei ben ef, a rhoi mantell borffor amdano.
3 Ac yr oeddent yn dod ato ac yn dweud, “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” ac yn ei gernodio.
4 Daeth Pilat allan eto, ac meddai wrthynt, “Edrychwch, rwy'n dod ag ef allan atoch, er mwyn ichwi wybod nad wyf yn cael unrhyw achos yn ei erbyn.”
5 Daeth Iesu allan, felly, yn gwisgo'r goron ddrain a'r fantell borffor. A dywedodd Pilat wrthynt, “Dyma'r dyn.”