18 Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.
19 Ysgrifennodd Pilat deitl, a'i osod ar y groes; dyma'r hyn a ysgrifennwyd: “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.”
20 Darllenodd llawer o'r Iddewon y teitl hwn, oherwydd yr oedd y fan lle croeshoeliwyd Iesu yn agos i'r ddinas. Yr oedd y teitl wedi ei ysgrifennu yn iaith yr Iddewon, ac mewn Lladin a Groeg.
21 Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Pilat, “Paid ag ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon’, ond yn hytrach, ‘Dywedodd ef, “Brenin yr Iddewon wyf fi.” ’ ”
22 Atebodd Pilat, “Yr hyn a ysgrifennais a ysgrifennais.”
23 Wedi iddynt groeshoelio Iesu, cymerodd y milwyr ei ddillad ef a'u rhannu'n bedair rhan, un i bob milwr. Cymerasant ei grys hefyd; yr oedd hwn yn ddiwnïad, wedi ei weu o'r pen yn un darn.
24 “Peidiwn a'i rwygo ef,” meddai'r milwyr wrth ei gilydd, “gadewch inni fwrw coelbren amdano, i benderfynu pwy gaiff ef.” Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud:“Rhanasant fy nillad yn eu mysg,a bwrw coelbren ar fy ngwisg.”Felly y gwnaeth y milwyr.