17 ac anfonodd ei was ar awr y wledd i ddweud wrth y gwahoddedigion, ‘Dewch, y mae popeth yn barod yn awr.’
18 Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, ‘Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’
19 Meddai un arall, ‘Rwyf wedi prynu pum pâr o ychen, ac rwyf ar fy ffordd i roi prawf arnynt; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’
20 Ac meddai un arall, ‘Rwyf newydd briodi, ac am hynny ni allaf ddod.’
21 Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tŷ, ac meddai wrth ei was, ‘Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd â'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.’
22 Pan ddywedodd y gwas, ‘Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd’,
23 meddai ei feistr wrtho, ‘Dos allan i'r ffyrdd ac i'r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhŷ;