36 Wrth iddynt ddweud hyn, ymddangosodd ef yn eu plith, ac meddai wrthynt, “Tangnefedd i chwi.”
37 Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd.
38 Gofynnodd iddynt, “Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau?
39 Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.”
40 Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.
41 A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?”
42 Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio.