42 Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio.
43 Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd.
44 Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.”
45 Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau.
46 Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd,
47 a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.
48 Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn.