4 fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia:“Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo.
5 Caiff pob ceulan ei llenwi,a phob mynydd a bryn ei lefelu;gwneir y llwybrau troellog yn union,a'r ffyrdd garw yn llyfn;
6 a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
7 Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
8 Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
9 Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.”
10 Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?”