9 Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.”
10 Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?”
11 Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.”
12 Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?”
13 Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.”
14 Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.”
15 Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia,