18 “Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf,oherwydd iddo f'eneinioi bregethu'r newydd da i dlodion.Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion,ac adferiad golwg i ddeillion,i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
19 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”
20 Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.
21 A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.”
22 Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, “Onid mab Joseff yw hwn?”
23 Ac meddai wrthynt, “Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, ‘Feddyg, iachâ dy hun’, a dweud, ‘Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.’ ”
24 Ond meddai, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes dim croeso i'r un proffwyd ym mro ei febyd.