33 “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd;
34 a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda.”
35 Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho, “Athro, yr ydym am iti wneud i ni y peth a ofynnwn gennyt.”
36 Meddai yntau wrthynt, “Beth yr ydych am imi ei wneud i chwi?”
37 A dywedasant wrtho, “Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant.”
38 Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi ag ef?”
39 Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Cewch yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, a bedyddir chwi â'r bedydd y bedyddir fi ag ef,