43 Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,
44 a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb.
45 Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
46 Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd.
47 A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”
48 Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”
49 Safodd Iesu, a dywedodd, “Galwch arno.” A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, “Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat.”