8 a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.
9 Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.”
10 Wedi mynd yn ôl i'r tŷ, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn.
11 Ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi;
12 ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.”
13 Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy,
14 ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.