28 fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
29 Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef.
30 Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”
31 Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”
32 Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?”
33 Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.”
34 Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.