14 A daeth deillion a chloffion ato yn y deml, ac iachaodd hwy.
15 Ond pan welodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna i Fab Dafydd!”, aethant yn ddig,
16 a dywedasant wrtho, “A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?” Atebodd Iesu, “Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: ‘O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun’?”
17 Yna gadawodd Iesu hwy ac aeth allan o'r ddinas i Fethania, a threuliodd y nos yno.
18 Yn y bore, wrth iddo ddychwelyd i'r ddinas, daeth chwant bwyd arno.
19 A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, “Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy.” Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.
20 Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, “Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?”