3 Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.”
4 Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:
5 “Dywedwch wrth ferch Seion,‘Wele dy frenin yn dod atat,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ”
6 Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt;
7 daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.
8 Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.
9 Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna i Fab Dafydd!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.Hosanna yn y goruchaf!”