36 Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy.
37 Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’
38 Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’
39 A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd.
40 Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?”
41 “Fe lwyr ddifetha'r dyhirod,” meddent wrtho, “a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.”
42 Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl;gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?