3 Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.
4 Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud.
5 Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes;
6 y maent yn hoffi cael y seddau anrhydedd mewn gwleddoedd a'r prif gadeiriau yn y synagogau,
7 a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'u galw gan bobl yn ‘Rabbi’.
8 Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn ‘Rabbi’, oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd.
9 A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol.