33 Chwi seirff ac epil gwiberod, sut y dihangwch rhag barn uffern?
34 Am hynny dyma fi'n anfon atoch broffwydi a rhai doeth a rhai dysgedig; byddwch yn lladd ac yn croeshoelio rhai ohonynt, ac yn fflangellu eraill yn eich synagogau, a'u herlid o un dref i'r llall.
35 Felly, ar eich pen chwi y bydd yr holl waed diniwed a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a lofruddiasoch rhwng y cysegr a'r allor.
36 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ar ben y genhedlaeth hon y bydd yr holl bethau hyn.
37 “Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
38 Wele, y mae eich tŷ yn cael ei adael yn anghyfannedd.
39 Oherwydd rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld o hyn allan hyd y dydd pan ddywedwch, ‘Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.’ ”