27 A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb,
28 oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.
29 Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.”
30 Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd.
31 Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Trawaf y bugail,a gwasgerir defaid y praidd.’
32 “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.”
33 Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.”