3 A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, “Y mae hwn yn cablu.”
4 Deallodd Iesu eu meddyliau ac meddai, “Pam yr ydych yn meddwl pethau drwg yn eich calonnau?
5 Oherwydd p'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’?
6 Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—yna meddai wrth y claf, “Cod, a chymer dy wely a dos adref.”
7 A chododd ac aeth ymaith i'w gartref.
8 Pan welodd y tyrfaoedd hyn daeth ofn arnynt a rhoesant ogoniant i Dduw, yr hwn a roddodd y fath awdurdod i ddynion.
9 Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef.