1 Paul, carcharor Crist Iesu, a Timotheus ein brawd, at Philemon, ein cydweithiwr annwyl,
2 ac Apffia, ein chwaer, ac Archipus, ein cydfilwr; ac at yr eglwys sy'n ymgynnull yn dy dŷ.
3 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
4 Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser wrth gofio amdanat yn fy ngweddïau,
5 oherwydd fy mod yn clywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint.
6 Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist.
7 Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.