10 apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar.
11 Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau.
12 Yr wyf yn ei anfon yn ôl atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi.
13 Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl.
14 Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.
15 Efallai, yn wir, mai dyma'r rheswm iddo gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro, er mwyn iti ei dderbyn yn ôl am byth,
16 nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl—annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.