16 nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl—annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.
17 Os wyt, felly, yn fy ystyried i yn gymar, derbyn ef fel pe bait yn fy nerbyn i.
18 Os gwnaeth unrhyw gam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf fi.
19 Yr wyf fi, Paul, yn ysgrifennu â'm llaw fy hun: fe dalaf fi yn ôl, a hynny heb sôn dy fod ti'n ddyledus i mi hyd yn oed amdanat dy hun.
20 Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
21 Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn.
22 Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gweddïau.