13 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”
14 Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?
15 Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.”
16 Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?”
17 Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist.
18 Ond y mae'n rhaid gofyn, “A oedd dichon iddynt fethu clywed?” Nac oedd, yn wir, oherwydd:“Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear,a'u geiriau hyd eithafoedd byd.”
19 Ond i ofyn peth arall, “A oedd dichon i Israel fethu deall?” Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses:“Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl,a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall.”