1 Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach.
2 Dywed wrth yr hynafgwyr am fod yn sobr, yn weddus, yn ddisgybledig, yn iach mewn ffydd a chariad a dyfalbarhad.
3 Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win;
4 dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwŷr a charu eu plant,