1 A digwyddodd ar ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad, yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria.
2 Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i'm tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian.
3 A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, Na ato yr Arglwydd i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti.
4 Ac Ahab a ddaeth i'w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara.
5 Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara?
6 Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan.