2 A'r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i'r Arglwydd oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder.
3 A'r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd â lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ.
4 Ac efe a wnaeth i'r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.
5 Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a'r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
6 Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled, a'r ganol chwe chufydd ei lled, a'r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o'r tu allan i'r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.
7 A'r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu.
8 Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i'r ganol, ac o'r ganol i'r drydedd.