20 A'r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a'i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.
21 Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a'u gwisgodd ag aur.
22 A'r holl dŷ a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.
23 Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder.
24 A'r naill adain i'r ceriwb oedd bum cufydd, a'r adain arall i'r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o'r naill gwr i'w adenydd ef hyd y cwr arall i'w adenydd ef.
25 A'r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb.
26 Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall.