8 Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i'r ganol, ac o'r ganol i'r drydedd.
9 Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a'i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
10 Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
11 A daeth gair yr Arglwydd at Solomon, gan ddywedyd,
12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:
13 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.
14 Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a'i gorffennodd.