9 A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.
10 Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i'w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd.
11 A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo.
12 Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o'r tri chadarn.
13 Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a'r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o'r maes yn llawn haidd, a'r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.
14 A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a'i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.
15 A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i'r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.